Case Study
Bright open concept office. There is a work meeting being held where a group of diverse people, including a man on a wheelchair are working together.

Mae asesiad aeddfedrwydd data Jisc yn rhoi gweledigaeth ar gyfer data i Goleg y Cymoedd

Helpodd Jisc Coleg y Cymoedd i nodi'r meysydd sylfaenol a fydd yn sicrhau dyfodol wedi'i alluogi gan ddata.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English.

Yr her

Roedd eisiau gwerthuso cyflwr presennol eu gweithrediadau data ar Goleg y Cymoedd er mwyn sicrhau bod ganddynt y sylfeini cywir yn eu lle i gynorthwyo gwneud penderfyniadau'n well. Fe wnaethon nhw hefyd nodi’r angen am ddull strwythuredig o reoli data i gynorthwyo technolegau sy'n dod i'r amlwg fel deallusrwydd artiffisial orau ac i fynd i'r afael â phryderon seiberddiogelwch.

Fe wnaeth Rory Meredith, prifathro cynorthwyol a phrif swyddog technoleg, a Karen Workman, is-bennaeth a phrif swyddog gweithredu, fynychu'r gweithdy aeddfedrwydd data yn Digifest yn 2023, a chawsant eu hysbrydoli i greu strategaeth ddata ar gyfer y coleg. Roedd eisiau sylfaen gref ar y tîm i gynorthwyo eu defnydd o dechnolegau newydd.

Gofynnodd y coleg i'w hunain; ym mha gyflwr mae ein data? A ydynt wedi'u hynysu ar draws sawl system mewn gwahanol adrannau? Sut allwn ni integreiddio ein data yn well fel y gallwn ni eu holi mewn ffyrdd gwell? Os gallwn ni wireddu gwerth o wneud hyn, sut allwn ni gynyddu awtomeiddio ar draws y daith ddata?

Helpodd y trafodaethau hyn iddynt lunio tair blaenoriaeth strategol:

  • Creu strategaeth ddata gref a dull strwythuredig i weithredu technolegau newydd yn y coleg
  • Meithrin diwylliant gwell o sut mae data'n cael eu canfod, gan anelu at lythrennedd data a chydweithio gwell
  • Meincnodi eu haeddfedrwydd data i golegau AB eraill i roi cyd-destun i gynnydd a nodi arferion gorau

Datrysiad

Gweithiodd y coleg gyda Jisc i nodi sut y gallai fframwaith aeddfedrwydd data Jisc eu helpu i ddeall eu cyflwr presennol a'r meysydd i'w gwella. Roedd yr asesiad aeddfedrwydd data, sy'n seiliedig ar Arolygon Ar-lein Jisc, wedi'i ddatblygu'n ddiweddar i ganiatáu i ddarparwyr ymgysylltu â'u timau yn y trafodaethau data, gan roi adborth ac asesiad o aeddfedrwydd ar draws meysydd y fframwaith.

Fe wnaeth y coleg rannu'r asesiad â chynrychiolwyr o’u corff staff a derbyniodd ymateb gwell na’r disgwyl. Awgrymodd hyn fod cymhwysedd data staff ychydig yn well nag a ganfuwyd yn flaenorol. Darparodd Jisc ddangosfwrdd arolwg â'r canlyniadau: mae ymatebion yr arolwg yn cael eu delweddu ar ddangosfwrdd rhyngweithiol gan roi dealltwriaeth glir i'r coleg o'r meysydd i'w trafod. Yn ogystal, fe wnaeth Rory ddefnyddio offer AI i ddadansoddi data'r arolwg ac i ddatblygu cynllun gwerthuso a gweithredu.

Manteision

Nododd y coleg “systemau a phrosesau” fel eu prif faes i’w gwella, gan nodi bod ganddynt ffynonellau data gwahanol. Darparodd yr asesiad y dystiolaeth oedd ei hangen arnynt i symud tuag at gydgrynhoi eu data yn well. Roedd angen iddyn nhw hefyd integreiddio datrysiad adrodd i ddelweddu eu canlyniadau'n well.

Yn y cyfamser, dechreuodd y coleg fapio eu pensaernïaeth data a'u llif data â'r nod o ddogfennu'r daith ddata yn llawn. Dechreuon nhw hefyd ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer systemau allweddol, dadansoddeg, a diffiniadau allweddol, â'r nod o uwchsgilio'r corff staff a'u grymuso i fod yn fwy hyderus gyda therminoleg data technegol, yn enwedig ar lefel uwch arweinyddiaeth.

Canlyniadau

Daeth yr asesiad aeddfedrwydd data a'r canlyniadau â dealltwriaeth ddyfnach o dirwedd data Coleg y Cymoedd, gan alluogi strategaeth ddata i yrru'r coleg ymlaen â'i ddefnydd o dechnolegau a data:

"Mae gennym ddealltwriaeth ardderchog o'r bylchau allweddol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw ar unwaith a chamau gweithredu mwy tymor canolig/hirdymor y dylid eu cynnwys wrth i ni ffurfioli ein strategaeth."

-Rory Meredith, pennaeth cynorthwyol a phrif swyddog technoleg, Coleg y Cymoedd

Beth nesaf?

Mae eisiau bod yn fwy gwybodus am ddata ar Goleg y Cymoedd yn eu meddwl a'u penderfyniadau, ag arferion data aeddfed yn norm yn y coleg.

Yn y tymor hwy, nod y coleg yw defnyddio offer AI newydd i gynorthwyo dadansoddeg rhagfynegol a diagnostig, gan sicrhau y gallant amlygu problemau cyn iddynt ddigwydd, gan gynorthwyo cadw a chyrhaeddiad myfyrwyr yn well. Mae hefyd eisiau symleiddio prosesau data arnyn nhw er mwyn sicrhau’r budd mwyaf:

“Mae’r asesiad yn sicr yn ein helpu i ddeall pethau’n well. Mae wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ein sefyllfa ar hyn o bryd, y cynlluniau y mae angen i ni eu gwneud ar gyfer y tymor byrrach a'r tymor hwy, a sut rydym yn agosáu at y ddelfryd honno o fod yn fwy strwythuredig yn ein dull gweithredu.”

-Rory Meredith, pennaeth cynorthwyol a phrif swyddog technoleg, Coleg y Cymoedd

Gyda Jisc, mae Coleg y Cymoedd wedi cymryd camau breision tuag at strategaeth ddata a fydd yn cynorthwyo atebion tymor canolig a hirdymor i gyflawni eu nodau data.

Ymunodd Rory â ni yn y Digifest diweddaraf i adrodd ei stori am gael ei ysbrydoli i gychwyn taith aeddfedrwydd data'r coleg./data-maturity-framework/data-maturity-consultancy/assessment//data-maturity-framework/data-maturity-consultancy/assessment/

Eisiau gwybod mwy?

Ynghylch Coleg y Cymoedd

Mae Coleg y Cymoedd yn cynnig amrediad eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser o lefel mynediad i lefel gradd ynghyd â phrentisiaeth arbenigol a hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith. Gyda phedwar campws a 400 o gyrsiau ar draws 22 o feysydd pwnc, mae'r sefydliad Cymreig yn cynorthwyo dros 10,000 o ddysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau.